Diolch! | Thanks!

10 Awst

Wel, am bost blog  hwyr, ymddiheuriadau ond dim ond wythnos hon da ni nôl lawr i’r ddaear! Diolch i chi i *gyd* am yr anrhegion hael, y dymuniadau gorau ac yn fwy na dim, eich cwmni gyda ni ar y diwrnod. Roedd hi’n hollol wych o ddiwrnod ac o brofiad, a chi wnaeth y diwrnod yn llawn, diolch, diolch eto!

Ry’n ni’n gadael ar ein mis mêl i Efrog Newydd a Long Island mewn ychydig wythnosau, byddwn yn medwl amdannoch o’r Top of the Rock!

Here’s a very late post, as we’ve only just returned to planet earth! Thank you *all* for coming and celebrating our wedding with us, it was the most fun, special and fabulous day we could have imagined, and that was all down to our lovely guests. Thanks for the thoughtful cards, the gorgeous gifts and all your good wishes, we had the best day of our lives thanks to you!

We’re off to NYC and Long island in a few weeks, we’ll be thinking of you all from the top of the Rock!

Cariad mawr,

Aled a Sions

xx

Paentio!

14 Meh

Helo eto ddarllenwyr y blog! Dwi yma’n gyflym yn rhoi cofnod bach tra bod y paratoadau dal yn mynd yn eu blaenau. Buon ni’n rhoi sbriws i gatiau Capel Salem yng Nghorris cyn y gymanfa ganu fydd yno’n fuan, handi iawn ei fod cyn ein priodas hefyd ;-)

Do, fues i’n gwneud gwaith gyda llaw, ond fi oedd yn dal y camera!

Hwyl, Sioned

 

Hi blog readers!

I’m just here quickly popping up a blog post as the preparations keep going for our wedding. We’ve been helping out with painting the Chapel raillings in preperation for the singing ‘cymanfa’ that will be taking place soon, very lucky that it’s close to the wedding too ;-)

I was also painting by the way, but had to hold the camera!

See you soon,

Sioned

This slideshow requires JavaScript.

Ar y Bws! | On the buses!

10 Mai

Dyma chydig mwy o fanylion am barti’r briodas, newyddion da os ydych chi yn aros yn yr ardal! Bydd bysiau ar gael ar ddiwedd y noson i’ch hebrwng adre’ wedi’r dathlu, dyna’r manylion:

Tua 12:15 Plas Dolguog –> Machynlleth (Bydd y bws yn stopio ar hyd y ffordd)

Tua 12:30 –  Plas Dolguog –> Dinas Mawddwy (Bydd y bws yn stopio ar hyd y ffordd)

Tua 12:30 -  Plas Dolguog –> Machynlleth –> Aberllefenni (Bydd y bws yn stopio ar hyd y ffordd)

Os oes modd, gadewch i ni wybod os hoffech chi drip ar y bws. Byddai’n grêt cael gwybod, ond yn sicr bydd digon o le i fynd a chi adref!

Here’s a bit more information about the wedding evening party, good news if you’re staying in the area! There will be buses to take you back to your lodgings after the wedding celebrations, here are the details:

About 12:15 – Plas Dolguog –> Machynlleth  

About 12:30 – Plas Dolguog –> Dinas Mawddwy (The Bus will stop along the way)

About 12:30 - Plas Dolguog –> Machynlleth –> Aberllefenni (The Bus will stop along the way)

If it’s possible to let us know if you’d like a ride on a bus, that would be great, but don’t worry if not, there’s sure to be room!

Croeso i’r Blog Priodas! | Welome to the Wedding Blog!

17 Ebr

Diolch am alw draw! Dyma wefan priodas Sioned ac Aled – yma fe gewch fwy o wybodaeth am sut i’n cyrraedd ni,  llefydd i aros a phethau i’w gwneud. Defnyddiwch y links uwchben i fynd o le i le. Da ni’n edrych ymlaen yn arw i’ch gweld chi yno!

Cofiwch roi gwybod hefyd os oes gyda chi unrhyw anghenion bwyd neu deithio arbennig i ni gael eich helpu.

Thanks for visiting! This is Sioned and Aled’s wedding website – you’ll find more information here about how to get here, places to stay and things to do. Navigate the sections above to find your way around. We’re really looking forward to seeing you there!

Please also let us know if you have any special requirements for food or accessibility so we can help you as best we can.

5 mis… hen ddigon o amser!

8 Maw

Haia blog-ddilynwyr!

Yndi, mae hi wedi bod yn dawel iawn yma ers y Nadolig, ond dim o achos diffyg digwyddiadau!

Buon ni mewn cyngerdd cawl a chân Dydd Gŵyl Dewi gan Barti Meibion Dyfi yn Institiwt Corris dros y penwythnos hefyd, wedi joio yn fawr.

Ddes i o hyd i hen lestri Neuadd Bentref Aberllefenni yn Institiwt Corris hefyd. Mae’r neuadd yn gartref preifat erbyn hyn, i’w weld wrth i chi ddod mewn i’r pentref.  Roedd hi’n wych o weld bod gan bob neuadd bentref a chapel eu llestri eu hunain slawer dydd – eitha gwahanol i’r pethau plaen o Ikea sy’ yn ein tŷ ni dyddie’ yma.

Buon ni yn ymweld â Chapel Salem yng Nghorris hefyd, yn anffodus ‘doedd dim gwasanaeth dydd Sul yma, ond gafodd Aled weld yr adeilad i dawelu’r nerfau cyn  y diwrnod ;-)

Gafon ni amser braf yn crwydro Aberllefenni ddydd Sadwrn, gobeithio gewch chi gyfle i ymweld â’r ardal yn ystod dathliadau’r briodas, mae hi’n eitha trawiadol yma yn ardal y chwareli.

Wel, mae gwisgoedd i’w trefnu a spray-tan Aled i’w bookio felly mae rhaid mynd – diolch am ddarllen a bydd mwy o gofnodion yn fuan!

Sioned ac Aled

Llefydd i Aros – Places to Stay

8 Ion

Helo! Os ydych chi’n teithio lawr atom ni i ddathlu’r briodas, dyma link gyflym i’r dudalen gwestai sydd yma ar y blog, i chi ddod o hyd i le i aros.

Mynd i’r dudalen llefydd i aros!

Hi there! If you’re coming to the wedding, here’s a really quick reminder about the accommodation pages we have on the blog, so you can find somewhere to stay.

Go to the accommodation page!

Helo 2011!

4 Ion

Wel dyma hi – mae 2011 wedi cyrraedd, a’r oll da ni’n glywed ydi “Blwyddyn newydd dda… o da chi’n priodi elenni yn dydach?”

Newyddion da ond eto yn rhoi tamed o ddychryn i rwyn i fod yn onest! Felly diolch i chi gyd am eich amynedd bod dim llawer o bostio yn mynd ar y blog yma, mae pethau yn dod at ei gilydd, rwan ein bod wedi dechrau meddwl bod 7 mis i fynd – digon o amser yn y byd go-iawn, ond dim o gwbl ym myd “priodasau”!

Gobeithio y cafoch chi i gyd Nadolig hyfryd, a bydd 2011 yn flwyddyn dda iawn i chi. Fuo’n ni yn Nghaerffili gyda teulu Aled, yn Aberllefenni gyda fy nheulu i, ac yn Aberaeron ar gyfer nos galan elenni – dim syndod bod dim llawer o waith ar y blog yma mae’n ddrwg gen i!

 

Pob hwyl am rwan, cofiwch adael sylw!

Sioned

 

Gwyliau bach yn Nghernyw

5 Hyd

Hia eto bawb allan fana, diolch am ddal ati yn darllen y blog, er bod dim lot o ddim priodas-ol yn digwydd ar hyn o bryd!

Buon ni’n dau i lawr yn Nghernyw am y penwythnos i ymlacio, ond yn anffodus fe bicion ni heibio Bryste i ymweld â Diana Porter i drafod modrwyon (dynes hollol hyfryd, ac yn wych i gael Aled i ystyried gwisgo gemwaith!) ac Inside Japan Tours i drafod mis mêl… waaa, mae pethe’n dechre mynd yn “real”!

Oedd Polperro yn bentre bach gwych, ond yn eitha gwlyb pan fuo’n ni (mae’r ddwr yn frown wedi’r storm yn un neu ddau o’r llunie). Lwcus i ni bod yr wyl gwrw yn cael ei chynnal a bod angen i ni neud digon o ymchwil yn honno, yn yr Old Mill House Inn cynnes a chlyd… ;-)

Roedd y bwyd môr yn anhygoel hefyd, chowder bwyd môr a bara brown ‘fo twr o fenyn y noson gyntaf yn y Three Pilchards. Yna, linguine cranc yn y Blue Peter ar nos Sadwrn – blasus tu hwnt. Wnaeth Aled hydynoed gael pysgod a sglodion yno, felly mae’n RHAID bod nhw’n gwneud bwyd rhagorol.

Diolch Cernyw, gafo ni amser da iawn gyda chi yn ymlacio… a byta!

`

Dal yn trefnu…

7 Medi

Hia pawb sy’n darllen y blog – mae pethau yn dechre poethi yma ar yr ochr drefnu! Mae Aled a minnau wedi cael gafael ar fand sy’n rhydd ar y noson (ffiw!), a mae trefniadau gwisgoedd y merched yn mynd ‘full speed’.

‘Da ni newydd ychwanegu mwy o wybodaeth yn yr ardal llefydd i aros hefyd. Mae hi braidd yn gynnar i chwilio am le i aros os da chi’n teithio o bell, ond mae hi wastad yn neis i sbio ar lefydd hyfryd i aros!

Byddai’n rhoi mwy o luniau fyny yma pan bydd mwy i ddangos i chi, diolch am ddarllen!

p.s. Dyma’r band, mae nhw’n fand bach eitha newydd a ddim yn enwog iawn, ond gobeithio byddwch chi’n joio nhw:

Gobeithio byddan nhw'n dda ar y noson yndê, rwbeth fel y Beatles di'r enw...

Amser braf ym Mro Ddyfi

16 Awst

Haia pawb allan fana, mae hi’n amser am gofnod arall ar y blog!

Gafo ni benwythnos gwych arall, y tro hwn yn rhoi croeso i rieni Aled i Fro Ddyfi. Wedi iddyn nhw gael siwrne enfawr trwy draffic Bont ar Ddyfi, fe gyraeddon nhw Y Plas a chael siawns i ymlacio. Er ei bod hi’n benwythnos y silwair, doedd dim angen i Gerry ac Aled yrru’r tractors; roedd hi’n amser dosio’r defaid serch hynny, a felly gafodd y dynion dro ar hela’r defaid mewn i’r gorlan – fel ranch holiday go iawn!

Yna ddydd Sul aeth y teulu i gyd i westy Plas Dolguog i gael golwg sut le fydd i’n brecwast priodas. Da ni’n falch ofnadwy i ddeud bod Mari a Gerry wedi mwynhau yn fawr iawn yno, gwych! Roedd y pwdin gafodd Aled a Rhyds yn eitha gwych, cwpannau coffi bach yn llawn mousse (neu “mouse” fel oedd ar y fwydlen!), waw! Da ni’n dau yn edrych mlaen yn arw i’ch croesawu chi gyd i’r ardal mis Gorfennaf nesa’.

A nodyn bach ar y diwedd fel hyn… pa mor wych yw’r gacen Star Wars yma? Da chi’n meddwl bydde nhw’n teithio i Fachynlleth tybed?!

Cacen Starwars gyda Luke, Leia, C3-PO ac R2-D2!

Cacen Star Wars gyda Luke, Leia, C3-PO ac R2-D2!

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn